Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Rhagfyr 2023
Amser:
13.30 -
15.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13579
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Carolyn Thomas AS (yn lle Huw Irranca-Davies AS) Alun Davies AS (Cadeirydd) James Evans AS Luke Fletcher AS (yn lle Adam Price AS) |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Anfonodd Huw Irranca-Davies ac Adam Price eu hymddiheuriadau. Yn unol â’r cynnig a dderbyniwyd yn y cyfarfod blaenorol, Alun Davies oedd y Cadeirydd dros dro.
Croesawodd y Pwyllgor Carolyn Thomas a Luke Fletcher fel dirprwyon.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
2.1 SL(6)418 – Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 SL(6)417 - Gorchymyn Prentisiaethau (Manyleb Safonau Prentisiaethau Cymru) (Addasu) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)409 - Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
4.2 SL(6)414 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 3) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.2 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Bil Diwygio Lesddaliadau a Rhydd-ddaliadau
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.
6.2 Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Trydydd cyfarfod Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y
Prif Weinidog.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Adroddiad drafft
Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar y Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a chytunwyd i ystyried fersiwn drafft pellach yn ei gyfarfod ar 8 Ionawr 2024.
9 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
· Cadwraeth a Defnydd Cynaliadwy o Amrywiaeth Fiolegol Forol Ardaloedd y tu hwnt i Awdurdodaeth Genedlaethol (“cytundeb BBNJ”)
· Cydnabyddiaeth Gilyddol y DU a Phortiwgal at Ddibenion Gyrru a Chyfnewid Trwyddedau
· Ennill Arian drwy Gyflogaeth rhwng y DU a Gwlad Belg Aelodau Penodol o'r Teulu a Gyflogir mewn Cenhadaeth Ddiplomyddol a Swyddi Consylaidd
· Cytundeb Gwasanaethau Awyr rhwng y DU a Georgia
· Protocol ar Weddillion Ffrwydrol Rhyfel i’r Confensiwn ar Waharddiadau neu Gyfyngiadau ar Ddefnyddio Arfau Confensiynol Penodol y gellir eu hystyried yn Ormodol Niweidiol neu gael Effeithiau Anwahaniaethol
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a thynnu sylw’r pwyllgorau perthnasol yn Senedd Cymru a Senedd y DU at y cytundebau rhyngwladol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol.